eWerthiant CNC – Telerau ac Amodau Defnyddwyr

 

Bydd y Telerau ac Amodau canlynol yn berthnasol i’ch defnydd o’r Wefan a’r Gwasanaeth.

1. Diffiniadau yn y Telerau ac Amodau hyn:

Mae “Cynnig” yn golygu cynnig am un neu fwy o lotiau a gyflwynwyd gan Gynigydd;

Mae “Tudalen Cynnig” yn golygu y dudalen manylion sy’n disgrifio’r Lotiau mewn Digwyddiad;

Mae “Cynigydd” yn golygu Defnyddiwr cofrestredig sydd ag awdurdod i gyflwyno Cynigion;

Mae “Rheolau Cynnig” yn golygu’r rheolau cynnig sy’n berthnasol i Lot benodol, fel y nodwyd gan yr eiconau ar y Dudalen Cynnig berthnasol;

Mae “Dyddiad Cau” yn golygu’r dyddiad a’r amser ar gyfer terfynu cynigion a nodwyd ar Dudalen Cynnig y Digwyddiad dan sylw;

eWerthiant” yw enw’r platfform ar-lein sydd ar y Wefan ac sy’n darparu’r Gwasanaeth;

Mae “Digwyddiad” yn golygu gwerthiant un neu fwy o Lotiau a bostiwyd gyda’i gilydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar y Wefan;

Mae “Lot” yn golygu swm unigol o bren a roddwyd ar werth gan Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o Ddigwyddiad;

Mae “Gwybodaeth ac Amodau Lot” yn golygu’r wybodaeth ac amodau manwl sy’n berthnasol i Lot, gan gynnwys y telerau ac amodau prynu ar-lein perthnasol, y gellir cael gafael arnynt drwy’r ddolen ar y Dudalen Cynnig ar gyfer Digwyddiad;

Mae “Cyfoeth Naturiol Cymru” neu “Ni” neu “CNC” yn golygu Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu i ddefnyddio’r pwerau a gynhwysir yn Neddf Coedwigaeth 1967 ac sydd â phrif leoliad y busnes yn Cyfoeth Naturiol Cymru, T? Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP;

Mae “Gofynion Cyn Cymhwyso” yn golygu pob gofyniad a amlinellwyd yng nghymalau 4.1 a 4.2, ac unrhyw wybodaeth arall y gofynnwyd amdani yn rhesymol gan CNC gennych Chi cyn dyfarnu Contract Prynu;

Mae “Prynwr” yn golygu Cynigydd y mae ei Gynnig wedi’i dderbyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â’r Telerau ac Amodau hyn;

Rhoddir ystyr “Contract Prynu” yn Amod 5.5;

Mae “Telerau ac Amodau’r Contract Prynu” yn golygu’r telerau ac amodau penodol sy’n ymwneud â’r Contract Prynu fel yr amlinellwyd yn yr Wybodaeth ac Amodau Lot;

Mae “Gwasanaeth” yn golygu’r gwasanaeth gosod cynnig a phrynu ar-lein a gynigir ar y Wefan;

Mae “Defnyddiwr” yn golygu unigolyn y mae ei gais ar gyfer cofrestru wedi’i dderbyn ac sydd heb ei wahardd;

“Enw Defnyddiwr” yw Eich dynodwr unigryw a ddefnyddir gyda chyfrinair i gael mynediad at y Gwasanaeth ar y Wefan;

Mae “Gwyliwr” yn golygu Defnyddiwr sydd wedi’i gofrestru, gyda hawliau i gael mynediad at y Wefan a’i gweld yn unig, ac nid fel Cynigydd;

Mae “Gwefan” yn golygu’r gwasanaeth gosod cynnig a phrynu ar-lein a’r wybodaeth gysylltiedig y ceir mynediad ati o’r dudalen we yn https://esales.cyfoethnaturiol.cymru/  neu gyfeiriad tudalen we arall fel y gall CNC nodi o dro i dro

Mae “Chi” yn golygu Chi fel porwr neu Ddefnyddiwr y Wefan neu’r Gwasanaeth;

2.  Cofrestru

  1. Mae’r Gwasanaeth a’r Wefan ond ar gael i unigolion sy’n gallu ffurfio contractau cyfreithiol rhwymol dan gyfraith berthnasol yng Nghymru a Lloegr. Nid yw’r Gwasanaeth ar gael i Ddefnyddwyr sy’n gweithredu at ddibenion y tu allan i’w masnach, busnes neu broffesiwn fel cwsmeriaid, nac i bobl ifanc dan oed.
  2. Rydym yn cadw’r hawl i dderbyn neu wrthod unrhyw gais i gofrestru fel Defnyddiwr yn ôl ein disgresiwn.
  3. Mae’n bosibl i chi wneud cais i gofrestru unai fel Cynigydd neu Wyliwr. Cynigydd cofrestredig priodol yn unig gaiff gyflwyno Cynigion. Gallai Gwyliwr gael mynediad at y Wefan a’i gweld ond ni fydd ganddo awdurdod i gyflwyno Cynigion.
  4. Drwy gofrestru fel Defnyddiwr, rydych yn cytuno Eich bod wedi darllen y Telerau ac Amodau hyn, Eich bod yn deall y Telerau ac Amodau hyn, a’ch bod wedi’ch rhwymo gan y Telerau ac Amodau hyn yn Eich defnydd o’r Gwasanaeth a’r Wefan.
  5. Os ydym yn derbyn Eich cais i gofrestru, byddwn yn anfon e-bost atoch yn dilysu Eich cofrestriad ac yn cadarnhau Eich Enw Defnyddiwr. Chi yn unig sy’n gyfrifol am gynnal cyfrinachedd Eich Enw Defnyddiwr a chyfrinair a byddwch yn ein hysbysu’n syth drwy e-bost o unrhyw ddefnydd awdurdodedig o’ch Enw Defnyddiwr neu gyfrinair.

3. Defnydd o’r Gwasanaeth

  1. Mae mynediad at y Gwasanaeth yn gyfan gwbl yn ôl disgresiwn Cyfoeth Naturiol Cymru ac rydym yn cadw’r hawl i atal dros dro neu am gyfnod amhenodol argaeledd y Gwasanaeth a/neu’r Wefan i Chi yn ôl Ein disgresiwn a heb rybudd ymlaen llaw.
  2. Rydych yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw Reolau Cynnig neu ganllawiau eraill sy’n ymwneud â’ch defnydd o’r Gwasanaeth a roddir ar y Wefan o dro i dro.
  3. Rydych yn cydnabod Eich bod wedi cofrestru i ddefnyddio’r Wefan a’r Gwasanaeth at ddibenion Eich masnach, busnes a phroffesiwn ac nid fel cwsmer, a bod unrhyw Gontractau Prynu rydych yn ymrwymo iddynt at ddibenion o’r fath. Rydych felly yn cytuno i ildio pob hawl o dan Reoliadau 9(1), 9(2) ac 11(1) o Reoliadau Masnach Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2002.
  4. Gallwn newid, atal neu ddod ag unrhyw agwedd o’r Gwasanaeth i ben, gan gynnwys argaeledd unrhyw ran o’r Gwasanaeth, am unrhyw reswm o gwbl, heb rybudd. Yn ogystal, rydym yn cadw’r hawl, yn ôl ein disgresiwn yn unig, i gywiro unrhyw wallau neu hepgoriadau yn unrhyw ddarn o’r Gwasanaeth neu’r Wefan.
  5. Rydych chi yn unig yn gyfrifol am yr holl ddefnydd o’r Wefan a’r Gwasanaeth gan ddefnyddio Eich Enw Defnyddiwr a/neu gyfrinair. Mae Eich awdurdodiad i ddefnyddio’r Gwasanaeth a’r Wefan yn bersonol i chi. Rhaid i chi gwblhau’r trafodion hynny a grëir gan ddefnyddio Eich Enw Defnyddiwr neu gyfrinair neu sy’n ganlyniad o hynny, p’un a yw trafodion o’r fath wedi’u hawdurdodi gennych Chi neu beidio.
  6. Rydych yn derbyn ac yn gwarantu’r canlynol:
    1. bod yr holl wybodaeth a roddir gennych Chi i Cyfoeth Naturiol Cymru yn wir ac yn gywir, ac y bydd yn parhau i fod yn wir ac yn gywir;
    2. na fydd Cynigion ofer nac annifyr yn cael eu postio gan ddefnyddio Eich Enw Defnyddiwr a’ch cyfrinair;
    3. na fyddwch yn gwneud unrhyw gais i ddylanwadu ar y broses gosod cynnig ar unrhyw adeg;
    4. bod unrhyw Gynnig a roddir gan ddefnyddio Eich Enw Defnyddiwr a’ch cyfrinair yn cael ei bostio, ac y bydd yn cael ei bostio, gyda’ch awdurdod Chi;
    5. na fydd Cynnig neu ddeunydd arall a gaiff ei bostio ar y Wefan neu a ddarperir fel arall gennych Chi yn wahaniaethol, anweddus nac anghyfreithlon neu’n torri eiddo deallusol unrhyw drydydd parti nac yn cynnwys feirysau, mwydod, feirysau Ceffyl Pren Troea neu eitemau eraill o natur niweidiol neu ddinistriol.

4. Gofynion Cyn Cymhwyso

  1. Rydych yn cytuno i sicrhau bod y Gofynion Cyn Cymhwyso canlynol wedi eu bodloni cyn gwneud unrhyw Gynigion. Ni fydd CNC yn derbyn Eich Cynigion os nad ydych wedi bodloni y gofynion hyn:
    1. Rhaid i Chi gwblhau Ffurflen Cymhwyster Gwerthiannau Pren ac iddi gael ei derbyn gennym Ni. Rhaid i Chi ddiweddaru ac ailgyflwyno Ffurflen Cymhwyster Gwerthiannau Pren ar gyfer ei derbyn pryd bynnag mae unrhyw wybodaeth neu amgylchiadau y cyfeirir atynt yn y Ffurflen Cymhwyster Gwerthiannau Pren yn newid. Mae’r ffurflen ar gael gyda’r dogfennau gwerthiannau ar y Wefan a dylid ei hanfon drwy e-bost at sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk;
    2. Rhaid i Chi hefyd gwblhau Holiadur Iechyd a Diogelwch a’i gael wedi’i dderbyn gennym ni. Rhaid i Chi ddiweddaru ac ailgyflwyno Ffurflen Cymhwyster Gwerthiannau Pren ar gyfer ei derbyn pryd bynnag mae unrhyw wybodaeth neu amgylchiadau y cyfeirir atynt yn y Ffurflen Cymhwyster Gwerthiannau Pren yn newid. Mae’r ffurflen ar gael gyda’r dogfennau gwerthiannau ar y Wefan a dylid ei hanfon drwy e-bost at  timber.sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk ;
    3. Bydd angen o leiaf pythefnos arnom i asesu Eich Holiadur Iechyd a Diogelwch neu Eich Ffurflen Cymhwyster Gwerthiannau Pren a byddwn yn rhoi gwybod i Chi os bydd angen gwybodaeth bellach. Rydym felly yn Eich cynghori i ganiatáu o leiaf pedair wythnos cyn i’r Digwyddiad perthnasol gau ar gyfer Cynigion i sicrhau bod Eich Holiadur Iechyd a Diogelwch neu Ffurflen Cymhwyster Gwerthiannau Pren wedi’i derbyn gennym;
    4. Rhaid i Chi hefyd gwblhau ffurflen Gwrthdaro Buddiannau a’i hanfon drwy e-bost at sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk cyn i’r Digwyddiad perthnasol gau i Gynigion. Rhaid i chi wneud hyn ar gyfer pob Digwyddiad. Mae’r ffurflen ar gael gyda’r dogfennau gwerthiannau ar y Wefan.
  2. Rydych yn gyfrifol am gadw Eich Gofynion Cyn Cymhwyso yn gyfredol ac yn gywir. Os ydych yn cam-ddatgan neu gam-gynrychioli unrhyw wybodaeth yn Eich Gofynion Cyn Cymhwyso, gallech gael Eich eithrio rhag unrhyw ddigwyddiadau eWerthiant yn y dyfodol am gyfnod o hyd at dair blynedd ac, os oes Contract Prynu wedi cael ei roi, mae’n bosibl y byddwch yn atebol am iawndal a gellir terfynu’r Contract Prynu.
  3. Ni ddylech osod Cynnig nes ein bod yn fodlon Eich bod wedi bodloni’r Gofynion Cyn Cymhwyso. Pe bai gwybodaeth yn dod i’r amlwg sy’n gwneud i ni ail-werthuso p’un a ydych wedi bodloni’r Gofynion Cyn Cymhwyso mewn ffordd sy’n foddhaol i Ni ai peidio, gallem gymryd camau gweithredu yn ôl ein disgresiwn, gan gynnwys Eich atal rhag gosod Cynigion, diystyru Eich Cynnig, neu derfynu unrhyw Gontract Prynu y gallech fod wedi ei gael gennym.

5. Gosod Cynigion a’u Derbyn

  1. Ar ôl cofrestru fel Cynigydd a bodloni’r Gofynion Cyn Cymhwyso, mae gennych hawl i gyflwyno Cynnig am Lotiau mewn Digwyddiad, yn unol â’r Rheolau Cynnig ac yn ddarostyngedig i’r Telerau ac Amodau hyn.
  2. Bydd pob Digwyddiad yn cau ar gyfer Cynigion ar y Dyddiad Cau heb hysbysiad na negeseuon atgoffa pellach i Chi.
  3. Mae Digwyddiadau a roddir ar y Wefan, a’r Lotiau unigol ym mhob Digwyddiad, ar ffurf gwahoddiad i drafod telerau. Bydd Cynnig a osodir gennych Chi yn gyfystyr â chynnig rhwymol ar gyfer y Lot dan sylw, y gellir ei dderbyn gennym Ni yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yn amodol ar y Rheolau Bidio ac unrhyw derfyn ar faint o bren y byddwn yn penderfynu sy’n gymwys o dan Amodau 7 neu unrhyw derfyn y byddwch Chi’n penderfynu ei nodi ar adeg y cynnig fel amod o’ch Cynnig.
  4. Ni fyddem o dan unrhyw rwymedigaeth i dderbyn y Cynnig uchaf nac unrhyw Gynnig, p’un a yw ein pris cadw wedi’i fodloni ai peidio.
  5. Bydd derbyn Cynnig yn ôl ein disgresiwn yn llwyr. Byddwn yn anfon e-bost atoch drwy’r system eWerthiant i dderbyn Eich Cynnig. Bydd hysbysiad o dderbyn o’r fath yn creu cytundeb rhwymol (“Contract Prynu”) rhyngoch Chi a Ni ac ystyrir y bydd contract o’r fath yn ymgorffori Gwybodaeth ac Amodau’r Lot a gweithdrefn anfon pren CNC ynghyd â’r Telerau ac Amodau Contract Prynu perthnasol.
  6. Pan nad oes Cynnig yn foddhaol i Ni, gallem, yn ôl ein disgresiwn ein hunain, fynd at unrhyw un sydd wedi gosod Cynnig yn y Digwyddiad a cheisio trafod gwerthiant o’r Lot berthnasol. Fel arall, gallem gynnig y Lot neu Lotiau perthnasol, neu unrhyw gydgasgliad o unrhyw rannau ohonynt, mewn unrhyw Ddigwyddiad neu Ddigwyddiadau diweddarach. Yn lle hynny, gallem ddelio â’r Lot berthnasol mewn unrhyw ffordd arall rydym yn ei ystyried yn briodol.
  7. Gallem benderfynu ar unrhyw adeg, gan gynnwys wrth ystyried Cynigion, i osod cyfyngiad ar y cyfanswm y gallech ei brynu mewn Digwyddiad penodol. Pan osodir cyfyngiad cyn y Digwyddiad perthnasol, byddwn yn dweud wrthych, gan roi gymaint o rybudd â phosibl. Pan osodir cyfyngiad wrth ystyried Cynigion, byddwn yn dweud wrthych cyn derbyn Cynigion.
  8. Pan roddir cyfyngiad ar y cyfanswm gennym Ni neu Chi, byddwn yn penderfynu yn ôl ein disgresiwn ein hunain pa un o’ch Cynigion, os unrhyw un, fydd yn cael ei dderbyn gennym Ni o fewn y cyfyngiad hwnnw.

6. Terfynu

  1. Rydym yn cadw’r hawl i wahardd neu derfynu Eich hawl i ddefnyddio’r Gwasanaeth a’r Wefan yn ôl ein disgresiwn, am unrhyw reswm a heb rybudd.
  2. Gallech ein hysbysu drwy Sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk ar unrhyw adeg y dymunwch i derfynu Eich defnydd o’r Wefan a/neu’r Gwasanaeth, ac, yn yr achos hwnnw, gwnawn ddirymu Eich hawliau mynediad at y Wefan a/neu’r Gwasanaeth o fewn deg diwrnod gwaith a chadarnhau i Chi fod Eich hawl i ddefnyddio’r Wefan a’r Gwasanaeth wedi’i therfynu.

7. Atebolrwydd

  1. Ac eithrio achos o farwolaeth neu anaf personol a achoswyd gan ein hesgeulustod, neu fel y darparwyd yn y Telerau ac Amodau hyn yn benodol, ni fyddwn Ni nac ychwaith ein hasiantau, cynrychiolwyr neu gontractwyr yn atebol i Chi am unrhyw golledion neu dreuliau yr ydych yn mynd iddynt oherwydd unrhyw gynrychiolaeth (ac eithrio twyll), neu unrhyw warantiad awgrymedig, amod neu delerau eraill, neu unrhyw ddyletswydd yn y gyfraith gyffredin nac o ganlyniad i dorri contract, ac felly trwy hyn yn eithrio atebolrwydd i’r hyd eithaf a ganiateir gan y gyfraith. Heb ragfarn i’r ystyriaeth gyffredinol blaenorol, ni fyddwn Ni nac ychwaith ein hasiantau, cynrychiolwyr neu gontractwyr ag unrhyw atebolrwydd am unrhyw un o’r canlynol:
    1. colled anuniongyrchol neu ganlyniadol, gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, colli elw, contract, gwybodaeth, arbedion disgwyliedig neu gyfle;
    2. ymyrraeth ar y Gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw fethiant i anfon unrhyw hysbysiad atoch) neu fynediad at y Wefan.
  2. Mae’r We Fyd-Eang y tu hwnt i’n rheolaeth rhesymol Ni a’n hasiantau, cynrychiolwyr neu gontractwyr, ac nid ydym Ni na nhw yn gwarantu y bydd y Wefan neu’r Gwasanaeth ar gael yn barhaus ac y bydd yn rhydd rhag diffygion. Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd rhaid i Ni gynnal gwaith cynnal a chadw o’r Wefan o bryd i’w gilydd a/neu atal gweithrediadau, ond, wrth wneud hynny, gwnawn geisio tarfu arnoch cyn lleied â phosibl.
  3. Rydych yn derbyn cyfrifoldeb llawn dros amddiffyn Eich systemau cyfrifiadurol, gan gynnwys caledwedd, meddalwedd a data wedi’i storio, rhag feirysau, mwydod, feirysau Ceffyl Pren Troea neu eitemau eraill o natur drafferthus y gellir eu lawrlwytho neu eu derbyn fel arall gan y Wefan.
  4. Ni ddylech geisio ymyrryd â gweithrediad priodol ein Gwefan neu’r Gwasanaeth ac, yn arbennig, ni ddylech geisio osgoi system ddiogelwch unrhyw system gyfrifiadurol, gweinydd, gwefan, llwybrydd neu unrhyw ddyfais arall sydd wedi cysylltu â’r rhyngrwyd, amharu arni, hacio i mewn iddi, neu ymyrryd fel arall â hi.
  5. Pan ydym yn cyfathrebu â Chi neu’n anfon hysbysiadau atoch drwy e-bost, byddwn yn ceisio’n rhesymol i rannu gwybodaeth cyn gynted ag sy’n ymarferol, ond rydych trwy hyn yn cydnabod y gellir oedi neu golli danfoniadau e-bost, ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas ag unrhyw achos o oedi neu golli unrhyw hysbysiadau gan y Defnyddiwr.

8.  Diogelu Data a Chyfrinachedd

  1. Mae’r Wefan a’r Gwasanaeth yn defnyddio cwcis i adalw Eich manylion ar gyfer pob defnydd ac i alluogi ymarferoldeb a chynorthwyo hwylustod. Rydym yn defnyddio cwcis yn unol â’n polisi preifatrwydd, y mae ei fanylion ar gael yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Hysbysiad preifatrwydd a Pholisi Diogelu Data (naturalresources.wales)
  2. Mae manylion Cynigion a dderbynnir yn gyfrinachol ac ni fydd gwybodaeth a gynhwysir mewn Cynigion yn cael ei datgelu gennym Ni i Gynigwyr eraill ac eithrio fel yr amlinellir yn Amod 8. Os ydych yn aflwyddiannus, gallwch wneud cais i gael Eich hysbysu drwy e-bost o’r rheswm pam na dderbyniwyd Eich Cynnig.
  3. Rydych yn cydnabod y gall yr holl wybodaeth, neu unrhyw ran ohoni, rydych yn ei darparu, p’un ai ydyw wrth gofrestru, diweddaru Eich cofrestriad neu o fewn Cynigion penodol, gynnwys data y diogelir gan Ddeddf Diogelu Data 2018 ac nad oes gennych wrthwynebiad i brosesu unrhyw wybodaeth o’r fath at ddiben y Gwasanaeth. Rydych yn gwarantu Eich bod wedi cael yr holl gydsyniadau angenrheidiol mewn perthynas â defnyddio unrhyw ddata o’r fath sy’n ymwneud â thrydydd partïon a’i ddatgelu i Ni.
  4. Gallwn ddefnyddio gwybodaeth a ddarperir gennych i gysylltu â Chi drwy e-bost, neges destun, ffôn, ffacs neu’r post gyda gwybodaeth sy’n ymwneud â’r Gwasanaeth. Gallwch ein hysbysu ar unrhyw adeg drwy e-bost nad ydych yn dymuno i’ch gwybodaeth gael ei defnyddio at ddibenion o’r fath.
  5. Gallwn ddefnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gennych i gasglu, defnyddio a darparu trydydd partïon ag ystadegau cyfanredol am y Gwasanaeth a gwybodaeth gysylltiedig am y Wefan, ond ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys gwybodaeth y byddai’n gallu cael ei defnyddio i’ch adnabod.

9. Rhyddid Gwybodaeth

  1. Rydych yn cydnabod y gallem gael ceisiadau gan drydydd partïon i ddatgelu gwybodaeth benodol mewn perthynas â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a/neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Pan yr ydym o’r farn bod datgeliad o’r fath yn angenrheidiol i’n galluogi i fodloni ein rhwymedigaethau o dan y Ddeddf neu’r Rheoliadau uchod, a bod yr wybodaeth y gofynnwyd amdani’n cynnwys gwybodaeth amdanoch Chi neu Eich Cynigion, ymdrechwn i’ch hysbysu cyn datgelu’r wybodaeth i’r trydydd parti perthnasol. Rydych trwy hyn yn cydnabod na fydd unrhyw ddatgeliad gennym Ni o dan y Ddeddf neu’r Rheoliadau uchod yn golygu toriad o Amod 8 nac o unrhyw un o’n rhwymedigaethau eraill o dan y Telerau ac Amodau hyn.

10. Diwygiadau, Addasiadau ac Ychwanegiadau

  1. Gallwn ddiwygio, addasu neu ychwanegu at y Telerau ac Amodau hyn, a Thelerau ac Amodau’r Contract Prynu, ar unrhyw adeg trwy roi’r telerau diwygiedig, addasedig neu atodol ar y Wefan. Bydd y telerau diwygiedig, addasedig neu atodol yn dod i rym pan gânt eu rhoi ar y Wefan a byddant yn berthnasol i’r holl Gynigion a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwnnw ac i unrhyw Gontract Prynu a allai ddod yn sgil y Cynigion hynny.

11. Cwynion a Phryderon

  1. Os oes gennych unrhyw gwynion, neu unrhyw bryderon am unrhyw ddeunydd sy’n ymddangos ar y Wefan, defnyddiwch y manylion cyswllt a ddangosir ar y Wefan.

12.  Cyfraith ac Awdurdodaeth Lywodraethu

  1. Bydd y Telerau ac Amodau hyn, a’r defnydd o’r Wefan a’r Gwasanaeth, yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith berthnasol Cymru a Lloegr a bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw.