Cyfoeth Naturiol Cymru eWerthiant

 
 
 

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rheoli’r ystad goedwig gyhoeddus yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Fe ymgymerir gwaith coedwigaeth yn gynaliadwy yn unol a Chynllun Ardystio Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth. Rydym yn cynhyrchu tua 850k m3 o bren yn gynaliadwy bobl blwyddyn, o ystad goedwig Gyhoeddus Cymru gan leihau’r ddibyniaeth ar bren wedi’i fewnforio, darparu deunyddiau carbon-isel, tanwydd ac ynni Rydym yn annog datblygiad diwydiannau cynaeafu coed a phrosesu pren cystadleuol ac iach ar draws Cymru ac yn marchnata ein coed mewn ffordd sy’n cynyddu ein henillion ariannol o werthu coed, wrth gyflawni amcanion Cynlluniau Adnoddau Coedwig unigol.