Diogelwch Safle

 

Mae system eWerthiant Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio tystysgrifau digidol i amgryptio pob gwybodaeth sensitif neu bersonol. Mae hyn yn golygu y gallwch chi fel gwyliwr neu gynigydd fod yn sicr, a chael sicrwydd, eich bod yn gwneud busnes gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (nid twyllwr) ac na all y wybodaeth rydych yn ei anfon cael ei rhyng-gipio neu ei dadgryptio gan unrhyw un arall.

Yn dechnegol, mae tystysgrifau digidol, yn rhwymo hunaniaeth sefydliad i bar o allweddi electronig y gellir eu defnyddio i amgryptio ac arwyddo gwybodaeth ddigidol. Mae dynodiad digidol yn ei gwneud yn bosibl i gadarnhau fod gan rywun arall yr hawl i ddefnyddio allwedd, gan helpu atal pobl rhag defnyddio allweddi ffug i ddynwared defnyddwyr eraill. Mae defnyddio dynodiadau digidol ar y cyd amgryptio, yn darparu datrysiad diogelwch llwyr i sicrhau hunaniaeth un neu bob un o’r partion sy’n ymwneud a’r gwerthiant.

Fe gyhoeddir tystysgrifau digidol gan drydydd parti dibynadwy a elwir yn Awdurdod Ardystio (CA, yn yr achos hwn VeriSign.

Mae Bip Solutions Ltd wedi ymrwymo i ddiogelwch eich data. Er mwyn helpu i’ch amddiffyn chi a’ch data rydym wedi rhoi mesurau diogelwch canlynol yn eu lle:

  • Gweinyddion diogel diweddaraf un
  • Meddalwedd sganio firysau ar i prosesu o Sophos
  • Muriau cadarn diweddaraf Cisco sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd yn unol ag arfer gorau’r diwydiant
  • Systemau canfod ymyrraeth ac ataliad awtomatig
  • Y defnydd o dystysgrifau SSL i ddiogelu holl ddata a drosglwyddir ar draws y rhyngrwyd
  • Prosesau Datblygu sydd wedi cael eu hardystio a’u harchwilio i safonau ISO 9001ac ISO 27001 a gydnabyddir yn rhyngwladol

Yn ogystal a’r uchod, mae eWerthiant Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun wedi ei brofi’n helaeth a’i gymeradwyo gan asiantaeth diogelwch cofrestredig allanol (Net Defence Ltd), sy’n aelod o TIGER accreditation scheme.

Am ragor o wybodaeth am y mesurau diogelwch o fewn eWerthiant Cyfoeth Naturiol Cymru, anfonwch e-bost at security@delta-esourcing.com.