Cwestiynau Cyffredinol

 

Tudalen Gynnwys

Cofrestru

Pa rol defnyddiwr ddylwn ei ddefnyddio?

Pan fyddwch yn cofrestru ar ran busnes, byddwch yn cael rol cynigydd. Os mai chi yw’r person cyntaf i gofrestru ar ran eich cwmni, byddwch hefyd yn cael y rol o Weinyddwr Cwmni.

Cynigiwr – Anelwyd y rol defnyddiwr ar gyfer prynwyr pren yn unig. Mae gan gynigiwr hawl i gyrchu manylion digwyddiadau gwerthu, dogfennau contractau, mapiau a chanlyniadau gwerthu, ac angen gwneud cynnig neu brynu pren. Mae angen i gynigwyr gofrestru gyda chwmni cysylltiedig a fyddant yn derbyn hysbysiad e-bost am unrhyw ddigwyddiadau sy’n ymwneud ag ardal farchnata a chynnyrch dewisol y defnyddiwr.

Gwyliwr – Anelwyd y rol defnyddiwr ar gyfer rheolwyr cytundebau, priswyr pren a chontractwyr. Gweinyddwr Cwmni fydd yn creu cyfrifon defnyddwyr ar gyfer eu cwmni fydd a rol ‘Gwyliwr’. Dewiswch wyliwr os ydych am gyrchu manylion digwyddiadau gwerthu, dogfennau contractau, mapiau a chanlyniadau gwerthu, ond ddim am gynnig neu brynu pren. Bydd gwylwyr sydd wedi cofrestru gyda chwmni cysylltiedig yn derbyn hysbysiad e-bost am unrhyw ddigwyddiadau mae eu cwmni yn cael ei wahodd iddo.

Sylwer: Mae yna opsiwn i weld manylion yr holl ddigwyddiadau gwerthu cyfredol drwy ddefnyddio’r opsiwn “Current Sales Events” Gall hyn gael ei gyrchu gan unrhyw un sydd ddim wedi cofrestru ar gyfer E-Werthiant neu’n gysylltiedig a chwmni.

Gweinyddwr Cwmni – Bydd yna un enw defnyddiwr ar gyfer pob cwmni sydd a rol Gweinyddwr Cwmni. Bydd y defnyddiwr cyntaf sy’n cofrestru ar gyfer cwmni yn cael y rol hon; fodd bynnag, gellir ei ailbennu i enw defnyddiwr arall. Nid oes angen i’r Gweinyddwr Cwmni fod yn Gynigydd. Bydd y rol hon yn gyfrifol am greu cyfrifon defnyddwyr newydd ar gyfer y cwmni a bydd hefyd yn gallu analluogi cyfrif lle mae’r defnyddiwr wedi gadael y cwmni.

Beth os byddaf yn anghofio fy nghyfrinair?

Os fyddwch yn anghofio eich cyfrinair, cliciwch ar y ddolen briodol (ar y dudalen mewngofnodi), cofnodwch eich enw defnyddiwr ( eich cyfeiriad e-bost llawn), cliciwch ar ‘Chwilio am Gyfrinair’. Yna bydd nodyn atgoffa cyfrinair yn cael ei e-bostio atoch.

Alla i newid fy manylion defnyddiwr?

Gallwch : – Os fyddwch am newid eich manylion defnyddiwr, ar unrhyw adeg, gallwch wneud hyn trwy fewngofnodi a dewis ‘Fy Mhroffil’ o’r dudalen ‘Fy Ngweithgareddau’. Gallwch newid unrhyw fanylion defnyddiwr ac eithrio eich rol defnyddiwr. Os hoffech newid eich rol defnyddiwr, cysylltwch a’r gweinyddwr cwmni.

Beth os fyddaf yn newid fy nghyfeiriad e-bost?

Eich cyfeiriad e-bost yw eich enw defnyddiwr, yn fwy na dim oherwydd dylai fod yn hawdd i’w gofio ac yn sicr o fod yn unigryw i chi.

Fodd bynnag os fydd eich cyfeiriad e-bost yn newid (er enghraifft os fyddwch yn newid eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd) cysylltwch a desg gymorth BIP, a all wneud y newidiadau i’ch enw defnyddiwr yn ddiffwdan.

  • E-bost : helpdesk@delta-esourcing.com
  • Rhif Teliffon : 08452707050
  • Desg gymorth ar gael o : 08:00 tan 18:00 dydd Llun I ddydd Gwener , ac eithrio gwyliau banc.

Sut ydw i’n delio gyda newidiadau staff?

Bydd eich Gweinyddwr Cwmni yn gyfrifol am greu enwau defnyddwyr ar gyfer eich cwmni.

Os fydd aelod o staff yn gadael y cwmni rhowch wybod ar unwaith gall Gweinyddwr Cwmni roi’r enw defnyddiwr o’r neilltu i atal defnydd o’r cyfrif.

Yn ôl i frig y dudalen

Digwyddiadau Gwerthu

Beth yw tendr electronig?

Mae fformat ein tendrau electronig yn union yr un fath a’r tendr papur traddodiadol mae ein cwsmeriaid yn gyfarwydd  – disgrifiad academaidd yw: ocsiwn cynnig wedi’i selio, pris cyntaf, cydamserol (termau diffinnir isod ).

Cydamserol: fe gyflwynir y lotiau gyda’i gilydd ar gyfer cynigion (yn hytrach nag un ar ol y llall).

Pris Cyntaf: yr enillydd yn talu pris cynnig ei hun

Cynnig wedi’i Selio: mae cynigion yn gyfrinachol a dim ond y cynigiwr all eu gweld cyn i’r broses gau; ni chyhoeddir enwau enillwyr a phrisiau cynigion llwyddiannus ar o’l y gwerthiant.

Beth yw pwrpas y terfyn cyfaint?

Mae’r terfyn cyfaint yn caniatau i gynigwyr nodi’r uchafswm o gynnyrch penodol y maent yn dymuno eu prynu. Mae hyn yn caniatau cynigwyr i gynnig am lotiau sydd o ddiddordeb iddynt, heb y risg o brynu mwy o goed nag sydd ei angen.

Gall unrhyw un arall weld fy nghynnig?

Mewn gair, na, dim ond chi all weld y cynnig hyd nes bydd y digwyddiad wedi cau, ac nid oes gan unrhyw un hawl i gyrchu’r system i edrych ar unrhyw gynnig. Unwaith bydd y gwerthiant wedi cau, dim ond perchennog y digwyddiad a’r adolygydd all gyrchu’r system i weld gwybodaeth am gynigion – a hynny er mwyn dewis y cynnig llwyddiannus.

Ydy fy nghynnig wedi cael ei dderbyn?

Mae yna 3 ffordd o gadarnhau fod eich cynnig wedi cael ei gyflwyno’n llwyddiannus.

Tudalen canlyniadau’r cynigion – Ar o’l i chi glicio ar y botwm ‘Cyflwyno Cynigion’, pan fyddwch yn dychwelyd i’r dudalen Gwerthu Pren, ddylech ddod o hyd i’r dudalen canlyniadau’r cynigion gyda dyddiad/amser y cyflwyniad. Os fyddwch yn ail-agor digwyddiad gwerthu lle rydych wedi gwneud cynnig yn flaenorol , bydd eich cynigion yn cael eu harddangos yn erbyn y lot(iau) perthnasol. Tra bod y digwyddiad dal ar agor ar gyfer cynigion, mae’n bosibl dileu cynigion blaenorol, eu diweddaru a’u hail-gyflwyno.

Fy ngweithgaredd Cofnodi – Bydd gweithgaredd cofnodi pob defnyddiwr yn dangos manylion y digwyddiad yn glir a dyddiad/amser cyflwynwyd cynigion ar gyfer y digwyddiad.

Cadarnhad drwy’r e-bost – Ar o’l i chi glicio ar fotwm ‘Cyflwyno Cynigion’, byddwch yn derbyn cadarnhad drwy’r e-bost fydd yn crynhoi’r holl gynigion a wnaed ar y digwyddiad.

Sut mae enillwyr yn cael eu dewis?

Tendrau: Dethol â llaw – Mae perchennog y digwyddiad yn dewis yr enillwyr ar o’l i’r amser gwneud cynigion ddod i ben (BST). Fel arfer bydd y cynigiwr gyda’r cynnig uchaf (yn amodol ar gyrraedd y pris cadw) yn cael ei ddewis fel yr enillydd. Os ddigwydd fod yna ddau gynnig yn gyfartal, gall yr amser gwnaed y cynnig gael ei ystyried, gyda’r cynnig a gyflwynwyd gyntaf yn cael ei ddewis fel yr enillydd. Unwaith bydd perchennog y digwyddiad wedi dewis yr enillwyr, bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i’w adolygu cyn i’r contract gael ei ddyfarnu.

Yn o’l i frig y dudalen

Materion cyfreithiol

A oes angen i mi arwyddo contract?

Na. Mae eich derbyniad o’r telerau ac amodau wedi cael ei gynnwys yn y broses cofrestru, mewngofnodi a chynnig. Mae hyn wedi cael ei gynllunio i symleiddio’r broses o brynu pren felly, unwaith mae’r gwerthiant wedi cael ei gwblhau ac rydych wedi cael cadarnhad, byddwch yn medru cyrchu’r dogfennau gwerthu. Ond nid oes eisiau i chi ddanfon copiiau wedi’u harwyddo yn o’l atom.

Mae fy nghysylltiad rhyngrwyd yn araf iawn ac mae dogfennau yn cymryd amser i lawr lwytho

Rydym wedi ceisio lleihau maint y dogfennau cymaint ag sy’n bosibl, ond yn cydnabod fod defnyddwyr sydd a chysylltiadau rhyngrwyd araf yn cael anhawster i lawr lwytho dogfennau penodol.

Dyma rai awgrymiadau i helpu lleihau’r amser lawr lwytho.

  • Copiiau pdf o’r mapiau contract yw’r ffeiliau mwyaf. Byddwn yn awgrymu eich bod yn osgoi lawr lwytho’r rhain os ydych ddim ond yn edrych ar lotiau cyn y gwerthiant, oni bai fod gennych gysylltiad rhyngrwyd cyflym.
  • Mae llawer o’r dogfennau contract yn gyffredin i bob gwerthiant neu lotiau o’r fath, ac felly nid oes angen i chi lawr lwytho’r rhain ar gyfer pob lot. Yr unig ddogfennau sy’n benodol ar gyfer lotiau unigol yw : ‘Gwybodaeth ac Amodau’r Lot’; Amodau Penodol y Safle ; Manylion Gwerthu Coed sy’n Sefyll a’r mapiau. Hefyd gellid lawr lwytho dogfennau yma.
  • Mae yna opsiwn i Lawr lwytho sip ar gyfer y lot gwerthu, fydd yn lawr lwytho pob dogfen sydd yn ymwneud a’r lot gwerthu, fewn i ffeil sip sengl. Hefyd mae yna opsiwn i “Download all Documents on Page” , fydd yn caniatau’r defnyddiwr i gadw pob dogfen contract i yriant ar Gyfrifiadur Personol neu liniadur y defnyddiwr.

Yn ôl i frig y dudalen