Cyfarwyddyd, Cefnogaeth a Chymorth y Systemau

 

Contractau Gwerthu Pren CNC – Gweithdrefn Anfon

Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r dulliau y gallai deiliad contract gwerthu pren (y cwsmer) gael awdurdod i dynnu pob llwyth o bren o dir CNC.

Cyfeirir at y weithdrefn anfon hon yn nhelerau ac amodau contract gwerthu pren CNC, ac fe’i hymgorfforir ynddynt.  Mae’n rhaid i gwsmeriaid sicrhau bod eu gyrwyr a chludwyr yn dilyn y gweithdrefnau hyn.

Prif bwyntiau

  • Rhif PIN yw eich awdurdod i ddod ar dir CNC gyda cherbyd i dynnu llwyth o bren. Mae’n rhaid ei gael cyn dod ar dir CNC.
  • Dylid defnyddio rhifau PIN o fewn pedair awr oni bai fod CNC wedi nodi cyfnod byrrach yn ysgrifenedig.
  • Ni chaiff rhifau PIN eu dyroddi ar gyfer unrhyw gontractau sydd wedi dod i ben neu ar gyfer unrhyw gwsmer sydd wedi’i ‘atal’ neu ei wahardd am ba reswm bynnag.
  • Os na ellir cael rhif PIN am ba bynnag reswm yna nid oes awdurdod yn bodoli i ddod ar dir CNC i dynnu pren. Byddai gwneud hynny yn doriad difrifol o’r contract.
  • Mae cwsmeriaid yn hollol gyfrifol am weithredoedd a hepgoriadau eu cludwyr.
  • Pryd bynnag y gofynnir am rif PIN, rhagdybir y bydd y pren yn cael ei godi a’i dalu amdano. Os oes camgymeriad wedi cael ei wneud, mae’n rhaid canslo’r rhif PIN cyn gynted â phosibl, ac o fewn 24 awr yn ddelfrydol.

Y gwaith paratoi sydd ei angen cyn gofyn am rif PIN

  • Mae’n rhaid i gludwyr cwsmeriaid i ddechrau fod wedi cofrestru yn System Gwerthiannau Pren CNC (gan gynnwys manylion cyswllt busnes, rhifau cofrestru lorïau pren, ac ati).
  • Mae’n rhaid i gwsmeriaid gofrestru’r rhifau cofnod anfon o’u llyfrau tocyn anfon gyda desg anfon CNC. Ni fydd y system anfon symudol yn rhoi rhif PIN oni bai fod rhif cofnod anfon dilys heb ei ddefnyddio wedi’i ddyrannu i’r llwyth.
  • Mae’n rhaid i gludwyr gofrestru ffôn symudol, gyrrwr a chofrestriad lori gyda’r ddesg anfon i ddefnyddio’r system anfon symudol.
  • Gall cwsmeriaid arian parod yn unig ond ffonio’r ddesg anfon i wneud cais am rif PIN a bydd gwiriadau taliadau yn cael eu gwneud cyn y rhoddir rhif PIN. Caniatewch o leiaf 24 awr ar gyfer hyn.
  • Mae’n rhaid i gwsmeriaid sicrhau bod manylion eu cludwr yn cael eu cynnal yn system anfon CNC drwy anfon unrhyw newidiadau i yrwyr, rhifau ffôn symudol, lorïau ac ati drwy e-bost at sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk cyn gynted â phosibl. Mae’r manylion hyn yn bwysig gan eu bod yn ffurfio rhan o’r diogelwch ar gyfer pob anfoniad.

Gofyn am rif PIN

Gwybodaeth bwysig

Oriau’r ddesg anfon                                    Llun – Iau:                 7am – 4pm
Gwener:                     7am – 3pm

Rhif ffôn y ddesg anfon                              0300 065 4000

Cyfeiriad e-bost y ddesg anfon                 timber.sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ffôn y system anfon symudol            07481 344 921 (neges destun)

02920 101 503 (llais)

Os yw’r system anfon symudol i lawr ac nad yw’r ddesg ar gael, gall cwsmeriaid anfon symudol cofrestredig ffonio 07896 995905.

 

Cais â llaw

Ffoniwch y ddesg anfon yn ystod oriau gwaith (ac o fewn 72 awr o’r amser y codi arfaethedig) a rhowch y wybodaeth ganlynol:

  • Enw’r cwsmer
  • Rhif y contract
  • Rhif cofnod anfon
  • Rhif llannerch/cynnyrch
  • Enw’r cludwr
  • Amser/dyddiad y codi

Cais symudol

  • Gan ddefnyddio’r ffôn symudol sydd wedi’i gofrestru yn system CNC at y diben hwn, anfonwch neges destun at y rhif neges destun neu ffoniwch y rhif llais.
  • Rhowch y manylion yn y ffurf ofynnol.
  • Sicrhewch eich bod yn rhoi y cod mynediad cywir, sy’n cysylltu manylion y cais rhif PIN â’r manylion contract cywir yn system CNC. Mae CNC yn anfon rhestr o godau mynediad wedi’u diweddaru dros e-bost i gwsmeriaid anfon symudol bob wythnos.
  • OS OES GWALL CYN Y RHODDIR RHIF PIN – canslwch y cais ac ailddechrau.
  • OS OES GWALL A RHODDIR RHIF PIN – sicrhewch fod y rhif PIN yn cael ei ganslo a gwnewch gais am rif PIN arall ar gyfer y llwyth.

 

 

Canslo rhif PIN

  • Os oes gwall, mae’n rhaid canslo’r rhif PIN drwy ffonio’r ddesg anfon cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol o fewn 24 awr.
  • Gallai CNC ofyn i weld tystiolaeth na wnaeth yr anfoniad ddigwydd.
  • Os na chaiff rhif PIN ei ganslo, bydd anfoneb yn cael ei chodi ar gyfer yr anfoniad y gofynnwyd amdano. Bydd angen i’r cwsmer wedyn ofyn a yw ei gyfrif yn gywir er mwyn datrys y gwall gwreiddiol. Fel arall, bydd telerau’r contract yn berthnasol, a bydd angen gwneud taliad.

Gwiriadau a diogelwch rhifau PIN

  • Mae rhifau PIN yn un o brif nodweddion diogelwch gweithdrefn anfon CNC.
  • Bydd CNC yn cynnal gwiriadau diogelwch ar anfoniadau contract gan ddefnyddio camerâu i recordio symudiadau lorïau, drwy arsylwi, neu drwy stopio lorïau i wirio manylion yr anfoniad yn uniongyrchol.
  • Mae tynnu pren neu lwytho lori heb rif PIN sydd wedi’i ddyrannu’n gywir a’i gael ymlaen llaw cyn dod ar dir CNC yn doriad contract.
  • Mae’n rhaid i lorïau sy’n cael eu canfod i fod wedi torri gweithdrefnau anfon ddadlwytho ar unwaith mewn lle diogel a gadael tir CNC. Gellid atal anfoniadau pellach dros dro nes bod achos y toriad wedi’i ddatrys i fodlonrwydd CNC.
  • Gallai toriadau aml, diofal neu fwriadol o’r weithdrefn anfon olygu terfynu contractau gwerthu pren y cwsmer. Gallai CNC benderfynu gwahardd unigolion neu gwmnïau rhag gweithio ar dir CNC a gallai CNC hefyd beidio masnachu â’r cwsmer yn gyfan gwbl.

Ymdrin eilaidd a llwytho fflatiau

  • Mae’n rhaid cytuno ar barcio fflatiau ôl-gerbydau ar dir CNC ar gyfer llwytho ac anfon hwyrach ymlaen llaw gyda rheolwr y contract, a fydd yn dweud lle y gellid parcio’r ôl-gerbydau fel y gellir rheoli diogelwch y pren.
  • Ni ddylid gofyn am rif PIN ar gyfer ymdrin eilaidd o ddeunydd er mwyn llwytho ôl-gerbyd wedi parcio yn unig.
  • Mae’n rhaid i unrhyw lori sy’n symud ôl-gerbyd wedi’i lenwi gael rhif PIN i gofrestru’r anfoniad.
  • Pan fydd y lori graen wedi llwytho’r fflatiau, mae’n rhaid iddi wedyn gael rhif PIN i symud ei llwyth ei hun oddi ar dir CNC.