Marchnata pren
Mae’r cynllun gwerthu a marchnata pren yn cael ei ddylanwadu gan bolisi cyffredinol Llywodraeth Cymru fel yr amlygir yn strategaeth Coetiroedd i Gymru ac fe’i cefnogir drwy gyflawni cynlluniau adnoddau coedwig a chynlluniau corfforaethol a busnes CNC. Gall hefyd, yn y dyfodol, gael ei ddylanwadu gan gynlluniau llesiant lleol fel y’u pennir gan Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus mewn rhanbarthau fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Cyflawnir yr amcanion marchnata drwy gynnal a chyflwyno’r dulliau canlynol drwy gydol y cynllun hwn.
- Un o’r prif weithgareddau gwerthu fydd tendrau marchnad agored gan ddefnyddio’r platfform gwerthu electronig, sy’n agored i gwsmeriaid presennol a chwsmeriaid newydd. Cynigir o leiaf 70% o’r rhaglen pum mlynedd i’r farchnad agored drwy’r platfform hwn.
- Gan weithio gyda rhanddeiliaid a chwsmeriaid, byddwn yn ymgorffori’n agored a theg ddull Pobl, Planed a Ffyniant o ymdrin â gweithgareddau gwerthu pren ar YGLlC. Bydd y dull hwn yn dwyn ynghyd y gymeradwyaeth cyn-gymhwyso gwerthu pren a chymeradwyaeth yr Holiadur Cyn-gymhwyso iechyd a diogelwch i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn ymgorffori safonau cymdeithasol ac amgylcheddol yn eu gweithgareddau busnes. Anelwn at ddatblygu’r dull hwn yn 2021, cyflwyno cynllun peilot a cheisio ei weithredu ar gyfer pob trafodyn gwerthu pren erbyn 2023/2024.