Tudalen Gynnwys
- Cofrestru
– Pa rol defnyddiwr dylwn ei ddewis?
– Beth os byddaf yn anghofio fy nghyfrinair?
– Alla i newid fy manylion defnyddiwr?
– Beth os byddaf yn newid fy nghyfeiriad e-bost?
– Sut ydw i’n delio gyda newidiadau staff?- Digwyddiadau gwerthu
– Beth yw tendr electronig?
– Beth yw pwrpas y terfyn cyfaint?
– Gall unrhyw un arall weld fy nghynnig?
– Ydy fy nghynnig wedi cael ei dderbyn?
– Sut mae enillwyr yn cael eu dewis?- Materion cyfreithiol
– Oes angen i mi arwyddo contract?
– Mae fy nghysylltiad rhyngrwyd yn araf iawn ac mae dogfennau’n cymryd amser i lawr lwytho
Pan fyddwch yn cofrestru ar ran busnes, byddwch yn cael rol cynigydd. Os mai chi yw’r person cyntaf i gofrestru ar ran eich cwmni, byddwch hefyd yn cael y rol o Weinyddwr Cwmni.
Cynigiwr – Anelwyd y rol defnyddiwr ar gyfer prynwyr pren yn unig. Mae gan gynigiwr hawl i gyrchu manylion digwyddiadau gwerthu, dogfennau contractau, mapiau a chanlyniadau gwerthu, ac angen gwneud cynnig neu brynu pren. Mae angen i gynigwyr gofrestru gyda chwmni cysylltiedig a fyddant yn derbyn hysbysiad e-bost am unrhyw ddigwyddiadau sy’n ymwneud ag ardal farchnata a chynnyrch dewisol y defnyddiwr.
Gwyliwr – Anelwyd y rol defnyddiwr ar gyfer rheolwyr cytundebau, priswyr pren a chontractwyr. Gweinyddwr Cwmni fydd yn creu cyfrifon defnyddwyr ar gyfer eu cwmni fydd a rol ‘Gwyliwr’. Dewiswch wyliwr os ydych am gyrchu manylion digwyddiadau gwerthu, dogfennau contractau, mapiau a chanlyniadau gwerthu, ond ddim am gynnig neu brynu pren. Bydd gwylwyr sydd wedi cofrestru gyda chwmni cysylltiedig yn derbyn hysbysiad e-bost am unrhyw ddigwyddiadau mae eu cwmni yn cael ei wahodd iddo.
Sylwer: Mae yna opsiwn i weld manylion yr holl ddigwyddiadau gwerthu cyfredol drwy ddefnyddio’r opsiwn “Current Sales Events” Gall hyn gael ei gyrchu gan unrhyw un sydd ddim wedi cofrestru ar gyfer E-Werthiant neu’n gysylltiedig a chwmni.
Gweinyddwr Cwmni – Bydd yna un enw defnyddiwr ar gyfer pob cwmni sydd a rol Gweinyddwr Cwmni. Bydd y defnyddiwr cyntaf sy’n cofrestru ar gyfer cwmni yn cael y rol hon; fodd bynnag, gellir ei ailbennu i enw defnyddiwr arall. Nid oes angen i’r Gweinyddwr Cwmni fod yn Gynigydd. Bydd y rol hon yn gyfrifol am greu cyfrifon defnyddwyr newydd ar gyfer y cwmni a bydd hefyd yn gallu analluogi cyfrif lle mae’r defnyddiwr wedi gadael y cwmni.
Os fyddwch yn anghofio eich cyfrinair, cliciwch ar y ddolen briodol (ar y dudalen mewngofnodi), cofnodwch eich enw defnyddiwr ( eich cyfeiriad e-bost llawn), cliciwch ar ‘Chwilio am Gyfrinair’. Yna bydd nodyn atgoffa cyfrinair yn cael ei e-bostio atoch.
Gallwch : – Os fyddwch am newid eich manylion defnyddiwr, ar unrhyw adeg, gallwch wneud hyn trwy fewngofnodi a dewis ‘Fy Mhroffil’ o’r dudalen ‘Fy Ngweithgareddau’. Gallwch newid unrhyw fanylion defnyddiwr ac eithrio eich rol defnyddiwr. Os hoffech newid eich rol defnyddiwr, cysylltwch a’r gweinyddwr cwmni.
Eich cyfeiriad e-bost yw eich enw defnyddiwr, yn fwy na dim oherwydd dylai fod yn hawdd i’w gofio ac yn sicr o fod yn unigryw i chi.
Fodd bynnag os fydd eich cyfeiriad e-bost yn newid (er enghraifft os fyddwch yn newid eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd) cysylltwch a desg gymorth BIP, a all wneud y newidiadau i’ch enw defnyddiwr yn ddiffwdan.
Bydd eich Gweinyddwr Cwmni yn gyfrifol am greu enwau defnyddwyr ar gyfer eich cwmni.
Os fydd aelod o staff yn gadael y cwmni rhowch wybod ar unwaith gall Gweinyddwr Cwmni roi’r enw defnyddiwr o’r neilltu i atal defnydd o’r cyfrif.
Mae fformat ein tendrau electronig yn union yr un fath a’r tendr papur traddodiadol mae ein cwsmeriaid yn gyfarwydd – disgrifiad academaidd yw: ocsiwn cynnig wedi’i selio, pris cyntaf, cydamserol (termau diffinnir isod ).
Cydamserol: fe gyflwynir y lotiau gyda’i gilydd ar gyfer cynigion (yn hytrach nag un ar ol y llall).
Pris Cyntaf: yr enillydd yn talu pris cynnig ei hun
Cynnig wedi’i Selio: mae cynigion yn gyfrinachol a dim ond y cynigiwr all eu gweld cyn i’r broses gau; ni chyhoeddir enwau enillwyr a phrisiau cynigion llwyddiannus ar o’l y gwerthiant.
Mae’r terfyn cyfaint yn caniatau i gynigwyr nodi’r uchafswm o gynnyrch penodol y maent yn dymuno eu prynu. Mae hyn yn caniatau cynigwyr i gynnig am lotiau sydd o ddiddordeb iddynt, heb y risg o brynu mwy o goed nag sydd ei angen.
Mewn gair, na, dim ond chi all weld y cynnig hyd nes bydd y digwyddiad wedi cau, ac nid oes gan unrhyw un hawl i gyrchu’r system i edrych ar unrhyw gynnig. Unwaith bydd y gwerthiant wedi cau, dim ond perchennog y digwyddiad a’r adolygydd all gyrchu’r system i weld gwybodaeth am gynigion – a hynny er mwyn dewis y cynnig llwyddiannus.
Mae yna 3 ffordd o gadarnhau fod eich cynnig wedi cael ei gyflwyno’n llwyddiannus.
Tudalen canlyniadau’r cynigion – Ar o’l i chi glicio ar y botwm ‘Cyflwyno Cynigion’, pan fyddwch yn dychwelyd i’r dudalen Gwerthu Pren, ddylech ddod o hyd i’r dudalen canlyniadau’r cynigion gyda dyddiad/amser y cyflwyniad. Os fyddwch yn ail-agor digwyddiad gwerthu lle rydych wedi gwneud cynnig yn flaenorol , bydd eich cynigion yn cael eu harddangos yn erbyn y lot(iau) perthnasol. Tra bod y digwyddiad dal ar agor ar gyfer cynigion, mae’n bosibl dileu cynigion blaenorol, eu diweddaru a’u hail-gyflwyno.
Fy ngweithgaredd Cofnodi – Bydd gweithgaredd cofnodi pob defnyddiwr yn dangos manylion y digwyddiad yn glir a dyddiad/amser cyflwynwyd cynigion ar gyfer y digwyddiad.
Cadarnhad drwy’r e-bost – Ar o’l i chi glicio ar fotwm ‘Cyflwyno Cynigion’, byddwch yn derbyn cadarnhad drwy’r e-bost fydd yn crynhoi’r holl gynigion a wnaed ar y digwyddiad.
Tendrau: Dethol â llaw – Mae perchennog y digwyddiad yn dewis yr enillwyr ar o’l i’r amser gwneud cynigion ddod i ben (BST). Fel arfer bydd y cynigiwr gyda’r cynnig uchaf (yn amodol ar gyrraedd y pris cadw) yn cael ei ddewis fel yr enillydd. Os ddigwydd fod yna ddau gynnig yn gyfartal, gall yr amser gwnaed y cynnig gael ei ystyried, gyda’r cynnig a gyflwynwyd gyntaf yn cael ei ddewis fel yr enillydd. Unwaith bydd perchennog y digwyddiad wedi dewis yr enillwyr, bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i’w adolygu cyn i’r contract gael ei ddyfarnu.
Na. Mae eich derbyniad o’r telerau ac amodau wedi cael ei gynnwys yn y broses cofrestru, mewngofnodi a chynnig. Mae hyn wedi cael ei gynllunio i symleiddio’r broses o brynu pren felly, unwaith mae’r gwerthiant wedi cael ei gwblhau ac rydych wedi cael cadarnhad, byddwch yn medru cyrchu’r dogfennau gwerthu. Ond nid oes eisiau i chi ddanfon copiiau wedi’u harwyddo yn o’l atom.
Rydym wedi ceisio lleihau maint y dogfennau cymaint ag sy’n bosibl, ond yn cydnabod fod defnyddwyr sydd a chysylltiadau rhyngrwyd araf yn cael anhawster i lawr lwytho dogfennau penodol.
Dyma rai awgrymiadau i helpu lleihau’r amser lawr lwytho.