Cynnwys:
1. Cyflwyniad
2. Gofynion o ran Defnyddwyr
3. Sut i Gofrestru
4. Rolau Defnyddwyr
5. Anghofio Cyfrineiriau
6. Prynu Pren
7. Fformatau’r Digwyddiad
8. Cysylltiadau
1.1 Mae’r rhan fwyaf o’r pren a werthir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei werthu yn electronig drwy ein system e-Werthiant. Os hoffech brynu coed masnachol (gan gynnwys boncyffion, ffensys crwn, pren crwn bach, coed tân a thanwydd coed, pren caled a phren meddal) yna dilynwch y cyfarwyddiadau isod ar sut i gofrestru. Mae hon yn broses syml a ddylai ddim ond yn cymryd ychydig funudau.
1.2 Bydd y defnyddiwr sy’n cofrestru’n gyntaf ar ran y Cwmni yn cael y rôl o “Weinyddwr Cwmni”. Bydd defnyddwyr eraill ar gyfer y Cwmni yn cael eu creu gan y defnyddiwr gyda swyddogaeth “Gweinyddwr Cwmni”.
1.3 Mae yna gyfleuster ar brif dudalen E-Werthiant sy’n dangos manylion “Digwyddiadau Gwerthu Presennol”. Gall unrhyw un sy’n dymuno gweld y manylion hyn wneud hynny, heb gofrestru ar gyfer y system.
Dim ond defnyddwyr sy’n bwriadu gwneud cais ddylai gofrestru ar gyfer y system E-Werthiant.
1.4 Cofrestrwch o leiaf 1 wythnos cyn y gwerthiant cyntaf yr ydych yn bwriadu cynnig arno. Bydd eich cofrestriad yn para hyd nes y byddwch yn penderfynu i roi terfyn arno.
2.1 Mae’r system E-Werthiant wedi’i ddatblygu i fod mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr. Yr unig beth sydd eisiau arnoch i gymryd rhan yw:
• Cyfrifiadur Personol neu Ddyfais Smart (Dabled, Ffôn Symudol, ac ati)
• Cyfrif e-bost
• Porwr We. (i.e. Chrome, Firefox, Safari, neu Microsoft Internet Explorer 9 +, ag ati.)
• Adobe Acrobat Reader – i allu darllen dogfennau PDF
Mae pob un o’r porwyr a restrir, ac Acrobat reader, ar gael am ddim ar eu safleoedd priodol.
• Ewch i www.cyfoethnaturiol.cymru.ewerthiant-gwasaneth.co.uk
• Cliciwch ar sydd ar dde ym mhen uchaf y sgrin.
• Cliciwch ar Gofrestru fel Busnes
• Llenwch y Ffurflen Gwybodaeth Gyffredinol
Darllenwch Delerau ac Amodau yna ticiwch y blwch i dderbyn y “Telerau ac Amodau”
Cliciwch
Bydd y canlynol yn ymddangos..
Nawr fedrwch glicio ar i gyrchu E-Werthiant Cyfoeth Naturiol Cymru
4.1 Cynigiwr y Cwmni
Gall cynigydd gymryd rhan mewn digwyddiadau gwerthu coed, ac mae ganddo fynediad llawn at wybodaeth am ddigwyddiad gwerthu, canlyniadau a dogfennau contract.
Gall gynigwyr:
• wneud cais a phrynu coed
• cael mynediad at fanylion y digwyddiad gwerthu gan gynnwys mapiau a dogfennau contract.
• gael cyfleusterau chwilio digwyddiadau llawn
• gyrchu canlyniadau gwerthu a gwybodaeth am brisiau
4.2 Gweinyddwr Cwmni
Bydd y defnyddiwr cyntaf (Cynigiwr) gofrestrwyd ar gyfer y Cwmni, yn ddiofyn yn cael ei osod fel Gweinyddwr Cwmni. Gall y Gweinyddwr Cwmni greu, diweddaru neu gau cyfrifon defnyddwyr eraill y cwmni.
Gellir Rôl Gweinyddwr Cwmni gael ei drosglwyddo i ddefnyddiwr arall.
Dim ond un cyfrif fydd yn cael ei ddynodi fel Gweinyddwr Cwmni ar gyfer pob cwmni.
Mae gan Weinyddwr Cwmni:
• y gallu i greu cyfrifon defnyddwyr newydd ar gyfer eu cwmni
• y gallu i ddiwygio neu gau cyfrifon defnyddwyr ar gyfer eu cwmni
• y gallu i wneud cais a phrynu coed
• mynediad at fanylion y digwyddiad gwerthu gan gynnwys mapiau a dogfennau contract.
• cyfleusterau chwilio digwyddiadau llawn
• mynediad i ganlyniadau gwerthu a gwybodaeth am brisiau
4.3 Gwyliwr y Cwmni
Mae gan wyliwr fynediad llawn i wybodaeth am ddigwyddiad gwerthu, canlyniadau a dogfennau contract, ond ni all wneud cynnig.
Gall Gwylwyr:
• gael mynediad at fanylion y digwyddiad gwerthu gan gynnwys mapiau a dogfennau contract.
• gael cyfleusterau chwilio digwyddiadau llawn
• gael mynediad i ganlyniadau gwerthu a gwybodaeth am brisiau
• gael hysbysiad awtomatig o ddigwyddiadau gwerthu mae ei gwmni wedi cael ei wahodd iddynt a mynediad at ddogfennau contract y cwmni.
Sylwer: Mae yna opsiwn i weld manylion yr holl ddigwyddiadau gwerthu presennol drwy ddefnyddio’r dewis ![]() |
Mae yna gyfleuster atgoffa cyfrinair ar y dudalen Mewngofnodi / Cofrestru.
Rhowch eich cyfeiriad e-bost a byddwch yn derbyn e-bost gyda’ch cyfrinair yn awtomatig
6.1 Yn dilyn cofrestru, bydd gennych fynediad i wasanaeth E-Werthiant Cyfoeth Naturiol Cymru.
Pan fyddwch yn mewngofnodi, byddwch yn gweld opsiwn ar gyfer Tendrau Gwerthu Pren.
Cliciwch ar yr opsiwn Edrych ar Wahoddiadau Digwyddiad a Chynigion
6.2 Bydd y dudalen ganlynol yn agor, ac yn dangos yr holl ddigwyddiadau mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwahodd eich enw defnyddiwr i gymryd rhan ynddo.
I weld manylion y digwyddiad, cliciwch ar
6.3 Bydd y sgrin nesaf yn agor. I symud ymlaen i’r digwyddiad a manylion y lotiau, cliciwch ar y botwm
6.4 Dangosir manylion Cam Un y digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys dolenni i ddogfennau pwysig sy’n berthnasol i’r gwerthiant. Cymerwch amser i lawr lwytho a darllen y wybodaeth am y digwyddiad.
Pan yn barod i symud ymlaen, cliciwch ar y botwm
6.5 Mae Cam Dau, yn dangos manylion Lotiau unigol, wedi’i rhannu’n ddwy adran .. “Gwerthu coed sy’n sefyll” ac “Ochr y ffordd”.
Ar frig pob adran, mae cyfle i chi gofnodi Terfyn Cyfaint dewisol. Wrth ddyfarnu lotiau, bydd y terfyn hwn, lle y bo’n bosibl, yn cael ei gymryd i ystyriaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
6.6 bydd pob Lot yn arddangos gwybodaeth gryno, a chyfres o gysylltiadau i ddogfennau contract perthnasol a mapiau contract.
6.7 Os dymunir, gall cynnig gael ei gofnodi yn y maes a gynigir.
6.8 Gall eglurhad o’r contract gael ei gofnodi yn y maes darparwyd.
6.9 Pan fydd yr holl gynigion wedi cael eu cofrestru ar gyfer lotiau Coed sy’n sefyll ac Ochr y ffordd, cliciwch ar y botwm
6.10 Bydd y sgrin ganlynol i’w gweld. I gyflwyno pob cynnig a gofnodwyd, cliciwch fotwm
6.11 Bydd hwn yn danfon e-bost i gyfrif e-bost y defnyddiwr fydd yn crynhoi’r cynigion a gyflwynwyd ar y digwyddiad gwerthu.
6.12 Cyn i’r digwyddiad gau, gall y Defnyddiwr fynd yn ôl i’r digwyddiad gwerthu, symud i gam 3 o’r digwyddiad a chlicio ar y botwm
SYLWER: Bydd hyn yn dileu cynigion ar bob lot yn y digwyddiad. Bydd pob cynnig gwreiddiol ar y ffurflen cynnig. Yna gall y Defnyddiwr newid eu cynigion gwreiddiol a chlicio unwaith eto ar y botwm
6.14 Wedi i’r digwyddiad Gau, bydd e-byst yn cael eu danfon i ddefnyddwyr i roi gwybod iddynt a fu eu cynigion ar lotiau’n llwyddiannus neu beidio. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar sail lotiau unigol.
6.15 Canllaw Defnyddiwr Llawn ar gael ar y gwasanaeth E-Werthiant.
Mae ein system E-Werthiant yn defnyddio’r fformat yma ar hyn o bryd
Cliciwch yma i ddod o hyd i gysylltiadau Cyfoeth Naturiol Cymru