Ffurflenni cymhwyso ar gyfer Gweithdrefnau Gwneud Cynnig a Gwerthu

 

Holiaduron cymhwyso

Cyn gwneud cynnig, mae angen i gwsmeriaid lenwi holiaduron cymhwyso

Dim ond unwaith y bydd yn rhaid llenwi’r Ffurflen Gymhwyso Gwerthu Pren a’r Holiadur Iechyd a Diogelwch oni bai bod newid sylweddol yn y busnes. Efallai y byddwn yn gofyn i’r ffurflenni gael eu hadolygu bob tair blynedd i gadarnhau nad yw’r manylion wedi newid.

Er mwyn derbyn copi o’r ddwy ffurflen e-bostiwch Timber.Sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk,

Dylid cyflwyno’r holl ffurflenni wedi’u cwblhau i’r cyfeiriad e-bost canlynol Timber.Sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk; hyd oni fydd yr Holiadur Iechyd a Diogelwch a’r Ffurflen Cymwysterau Gwerthu Pren wedi cael eu gwerthuso a’u pasio, ni fyddwn yn gallu derbyn cynigion ar gyfer digwyddiadau gwerthu.

 

Proses Credyd Gwerthu Pren

Bydd gofyn i gwsmeriaid pren newydd fasnachu fel cwsmeriaid arian parod am hyd at 12 mis cyn gofyn am gredyd. Gweler y Manylion Banc ynghlwm.

Bydd TFS yn gwirio bod y cwsmer yn gymwys ac yn gofyn am unrhyw wybodaeth sydd ei hangen i benderfynu ar y cais. Unwaith y bydd gan TFS yr holl wybodaeth, y nod yw penderfynu ar y cais a hysbysu’r ymgeisydd o fewn 6 wythnos. Er y gall ceisiadau mwy cymhleth gymryd mwy o amser gan y gallai hynny gynnwys cael cyngor cyfreithiol.

 

Marchnata ein pren

Ein polisi yw marchnata ein pren fel ein bod yn sicrhau’r elw ariannol gorau posibl o werthu pren, ac ar yr un pryd rheoli’r coedwigoedd mewn modd cynaliadwy.

Rydym hefyd yn annog datblygu diwydiannau cynaeafu pren a phrosesu pren iach a chystadleuol ym Mhrydain Fawr.

Ein dulliau gwerthu yw:

Tendrau Electronig

Mae’r rhan fwyaf o’n gwerthiannau pren ar y farchnad agored yn cael eu cynnal yn electronig, trwy ein rhaglen e-werthiant pren. Y prif fformat ar gyfer gwerthu cystadleuol yw tendr electronig. Rydym yn gobeithio y bydd mwyafrif ein cwsmeriaid yn elwa trwy brynu pren ar-lein, ac yn gallu manteisio ar hyn.

Contractau Tymor Hir

Mae contractau tymor hir fel arfer yn gontractau pum mlynedd. Maent yn cael eu cynnig fel gwerthiannau coed sy’n sefyll neu werthiannau ymyl ffordd. Mae contractau tymor hir yn cael eu tendro yn ôl cyfaint penodol, sydd wedi’u rannu’n gyfartal dros gyfnod y contract. Fel arfer, caiff y pris ei ddiwygio’n flynyddol ar gontractau ymyl ffordd ac fesul lot ar gontractau coed sy’n sefyll.

Nid oes unrhyw gynlluniau i gynnig unrhyw gontractau hirdymor pellach ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu’r sefyllfa a byddwn yn hysbysebu unrhyw gyfleoedd ar gyfer contractau pellach pe bai angen mwy.

 

Amodau tynnu pren o Ystad Goed Llywodraeth Cymru

Ni fydd contract yn dechrau nes bod contract wedi’i lofnodi yn cael ei ddychwelyd drwy DocuSign a nes bod cyfarfod cyn cychwyn wedi’i gynnal gyda Rheolwr Contract CNC

  1. Gweithdrefn Ddanfon – Atodedig
  2. O fewn 10 diwrnod gwaith i ddanfoniad, rhaid i’r Cwsmer gyflwyno i CNC docyn pont bwyso a gafwyd yn unol ag amod 6.13 ynghyd â chopi o’r nodyn danfon mewn perthynas â’r danfoniad hwnnw, neu gofnod electronig o’r un wybodaeth, fel a gytunwyd gyda CNC.
  3. Rhaid i’r Cwsmer, ar ei gost ei hun, bwyso’r cynhyrchion ar bont bwyso sydd wedi’i graddnodi, ei chynnal, ei harchwilio a’i chymeradwyo’n briodol at ddibenion masnach gan yr awdurdod perthnasol ar gyfer mesurau a phwysau.
  4. Am amodau gwerthiant llawn, cyfeiriwch at y telerau ac amodau mewn contract neu mewn catalog eWerthiant.

 

 
Skip to content