Ffurflenni cymhwyso ar gyfer Gweithdrefnau Gwneud Cynnig a Gwerthu

 

Holiaduron cymhwyso

Cyn gwneud cynnig, mae angen i gwsmeriaid lenwi holiaduron cymhwyso

Dim ond unwaith y bydd yn rhaid llenwi’r Ffurflen Gymhwyso Gwerthu Pren a’r Holiadur Iechyd a Diogelwch oni bai bod newid sylweddol yn y busnes. Efallai y byddwn yn gofyn i’r ffurflenni gael eu hadolygu bob tair blynedd i gadarnhau nad yw’r manylion wedi newid.

Er mwyn derbyn copi o’r ddwy ffurflen e-bostiwch Timber.Sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk,

Dylid cyflwyno’r holl ffurflenni wedi’u cwblhau i’r cyfeiriad e-bost canlynol Timber.Sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk; hyd oni fydd yr Holiadur Iechyd a Diogelwch a’r Ffurflen Cymwysterau Gwerthu Pren wedi cael eu gwerthuso a’u pasio, ni fyddwn yn gallu derbyn cynigion ar gyfer digwyddiadau gwerthu.

Marchnata ein pren

Ein polisi yw marchnata ein pren fel ein bod yn sicrhau’r elw ariannol gorau posibl o werthu pren, ac ar yr un pryd rheoli’r coedwigoedd mewn modd cynaliadwy.

Rydym hefyd yn annog datblygu diwydiannau cynaeafu pren a phrosesu pren iach a chystadleuol ym Mhrydain Fawr.

Ein dulliau gwerthu yw:

Tendrau Electronig

Mae’r rhan fwyaf o’n gwerthiannau pren ar y farchnad agored yn cael eu cynnal yn electronig, trwy ein rhaglen e-werthiant pren. Y prif fformat ar gyfer gwerthu cystadleuol yw tendr electronig. Rydym yn gobeithio y bydd mwyafrif ein cwsmeriaid yn elwa trwy brynu pren ar-lein, ac yn gallu manteisio ar hyn.

Contractau Tymor Hir

Mae contractau tymor hir fel arfer yn gontractau pum mlynedd. Maent yn cael eu cynnig fel gwerthiannau coed sy’n sefyll neu werthiannau ymyl ffordd. Mae contractau tymor hir yn cael eu tendro yn ôl cyfaint penodol, sydd wedi’u rannu’n gyfartal dros gyfnod y contract. Fel arfer, caiff y pris ei ddiwygio’n flynyddol ar gontractau ymyl ffordd ac fesul lot ar gontractau coed sy’n sefyll.

Nid oes unrhyw gynlluniau i gynnig unrhyw gontractau hirdymor pellach ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu’r sefyllfa a byddwn yn hysbysebu unrhyw gyfleoedd ar gyfer contractau pellach pe bai angen mwy.